Mor fawr yw cariad Duw y Tad - Cadi Gwyn

’Mor fawr yw cariad Duw y Tad’ gyda Cadi Gwyn, Megan Morris a Cynan Glyn. Recordiad byw o oedfa bore dydd Sul 7 Chwefror 2021. Mor fawr yw cariad Duw y Tad, Ni ellir byth ei fesur; Fe roddodd ef ei Fab yn Iawn I achub gwael bechadur. Does neb all ddirnad maint ei boen, Pan guddiodd Duw y Tad ei wedd; Aeth t’wyllwch dudew drwy y tir Er mwyn i’n gael tangnefedd. Mor rhyfedd yw ei weld ar groes, Yn marw ar Galfaria; A chlywed sgrech fy llais fy hun Yn gwawdio gyda’r dyrfa. Fy mhechod oedd y bicell fain A’r hoelion dur a’r goron ddrain; Ond clywais lais maddeuant rhad O’i enau glân yn atsain. Does dim ymffrostiaf ynddo mwy, Na dawn, na dim drwy’r cread; Ymffrostio wnaf yn Iesu Grist, Ei groes a’i atgyfodiad. Diolchaf mwy am brofi’i ras – Pam fi? Ni wn, ond dyma’i rodd; Ni wneuthum ddim i haeddu hyn – Ei aberth ef a’m prynodd. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, How deep the Father’s love, Stuart Townend © 1995 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music tym@ trwy ganiatâd
Back to Top