Dafydd Iwan a’r Holl Artistiaid - Yma o Hyd

Gredwch chi byth, ond mae Dafydd Iwan wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru am dros hanner canrif. Ac ers y cychwyn cyntaf, yn Abergwaun yn 1962, mae ei ganeuon wedi gafael ym mhobl Cymru fel cyfeiliant i hanes Cymru dros yr hanner can mlynedd ddiwethaf. Mae gwreiddiau Dafydd yn ddwfn yn naear Maldwyn ar ochr ei fam, ac yr oedd tyddyn Esgair Llyn, a anfarwolwyd ganddo, ar dir fferm y teulu yn Aberhosan. Bu’n canu droeon ar lwyfan y Pafiliwn ac mae’n un o ffrindiau triw’r Eisteddfod Genedlaethol a’r Noson Lawen. Dyma Dafydd Iwan yn perfformio ‘Yma o hyd’ gyda gweddill artistiaid y noson i gloi Noson Lawen Eisteddfod Maldwyn a’r cyffiniau. All artists join Dafydd Iwan in a rousing finale of ‘Yma o hyd’ at the Eisteddfod Maldwyn Noson Lawen.
Back to Top