Côr Ieuenctid Mon - Cana o Dy Galon

Mae Côr Ieuenctid Môn bellach yn perfformio ers 9 mlynedd ac yn mwynhau bob munud o’r ymarferion a’r perfformiadau. Mae dros 80 o aelodau oed 8 i 16 ac un o nodweddion arbennig y côr yw eu gallu i gyd-dynnu a chreu sŵn unedig er gwaetha’r ystod oedran! Rhai o uchafbwyntiau’r côr yw eu llwyddiannau blynyddol yng Ngŵyl Gorawl Gogledd Cymru, gwobrau arbennig yng ngŵyliau Music For Youth, Birmingham, a hefyd eu hamser bythgofiadwy yn nhŷ Llefarydd y Tŷ Cyffredin a hefyd wrth gwrs, ar lwyfan mawr Neuadd Albert ym Mhrom Ysgolion 2010. Maent hefyd yn trysori eu llwyddiant yn cyrraedd rowndiau cynderfynol Côr Cymru S4C dair gwaith. Mae’r côr hefyd wedi ei wahodd i berfformio gwaith arbennig Karl Jenkins gyda Chôr y Cwm yn Llangollen yn 2012, ac wedi cael gorffen yr haf ar nodyn uchel gyda gwahoddiad i gefnogi “Only Men Aloud“ ar eu taith ym Mangor.
Back to Top