Adwaith - Nid Aur

Nid Aur yw sengl diweddaraf Adwaith, oddi ar eu albwm Bato Mato. Wedi’i recordio’n bennaf yn stiwdios Giant Wafer yn Llandrindod, cymuned yn y canolbarth, adunodd Adwaith gyda chynhyrchydd Melyn, Steffan Pringle (Estrons, Boy Azooga) ar gyfer eu hail record. Er i Bato Mato gael ei wneud yng Nghymru ochr yn ochr â chylch clos o gydweithwyr, mae wedi’i ysbrydoli gan bosibiliadau di-ben-draw y byd yn gyffredinol – a’r ing o orfod dewis llwybr wrth i fywyd oedolyn fagu ei ben. Mae’n sefyll fel canllaw i unrhyw un sy’n mynd ar eu taith epig eu hunain i’r anhysbys, yn union fel y gwnaeth Adwaith er mwyn ei chreu. Cyfarwyddwr: Eilir Pierce Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth: George Hoagy Morris Cynorthwyydd Camera: Daniel Land Rhedwr: Lisa Haf Hughes Golygu: Pixy Jones Cynhyrchu: Ynyr Morgan Ifan & Owain Jones Lyrics: Nid aur, yw popeth melyn Er mor galed, ti’n amddiffyn Trio fy ngorau ond ti byth yn neud Trio fy ngorau ond ti byth yn neud Wyt ti’n iawn? Wyt ti’n iawn? Wyt ti’n iawn? Mae hwn yn anghywir Mae’r euog yn ffoi, heb neb yn eu erlid Mae’r drws wedi cloi, heb gobaith o ryddid Mae pethau’n troi’n wael, wrth chwarae ’da tân Mae’r llosg mynd i brifo, wedest ti o’r blaen Araf deg, mae’n mynd ymhell Di-deimlad gwneud fi’n teimlo’n well Araf deg, mae’n mynd ymhell Di-deimlad gwneud fi’n teimlo’n well Cerddoriaeth newydd a diwylliant cyfoes Cymru 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 New Welsh music and contemporary culture 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Gwasga’r botwm ’Subscribe’ TikTok, Instagram, Twitter & Facebook - @Lwps4c
Back to Top